Gwneud yn Dda

Dim Byd Artiffisial
Rydym ond yn gwneud cynhyrchion sy'n seiliedig ar blanhigion, does dim cynnwys artiffisial o gwbl.

Llawn Maeth
Rydym yn cynnig cynnyrch â chalorïau a braster dirlawn is sydd ddim yn ymddangos yn GOCH ar y system goleuadau traffig bwyd.

Heb Glwten Na Chynnyrch Llaeth
Mae ein dipiau yn cael eu gwneud yn rhydd o glwten a llaeth fel y gall pawb eu mwynhau.
Teimlo’n Dda

Corff & Meddwl Iach
Rydym ar daith i hyrwyddo lles meddyliol, achos agos iawn i ni - felly rydym yn rhoddi 10% o'n helw i elusen iechyd meddwl Mind gyda’r nod i hyrwyddo lles meddyliol ym mhopeth a wnawn.

Lleihau Gwastraff
Rydym yn anelu at leihau gwastraff bwyd drwy ond ddefnyddio llysiau amherffaith a thrwy greu cynnyrch naturiol gyda chyfnod storfa mwy hir. Oeddech chi'n gwybod bod ein dipiau â oes silff naturiol o 3 mis a gellir eu storio yn yr oergell neu'r cwpwrdd? Pa mor dda yw hynny!

Parchu’r Blaned
Rydym yn cymryd o ddifri sut mae Do Goodly yn gwneud busnes. Rydym am sicrhau ein bod yn parchu pobl a'r planed ym mhob agwedd o’m gwaith. Fel rhan o hyn, rydym ond yn defnyddio deunydd pacio 100% ailgylchadwy ac yn defnyddio cymaint o ddeunydd pacio wedi'i ailgylchu â phosib gyda bwriad i fod yn rhydd o blastig pan fedrwn.
Blasu’n Dda

Pŵer Planhigion Pur
Rydym yn gwneud bwydydd blasus gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau er mwyn i chi eu mwynhau dro ar ôl tro.

Blas Anhygoel
Mae cogyddion a maethegwyr Do Goodly yn ymdrechu i daro'r cydbwysedd perffaith rhwng cynnyrch blasus a maethlon ym mhob cam.

Wedi’i Greu Ym Mhrydain
Mae pob dip Do Goodly wedi'i wneud â llaw ym Mhrydain o gynhwysion syml a naturiol.